Macbeth

Ciw-restr ar gyfer Y Ddewines gyntaf

 
(1, 1) 4 Cyfwrdd eto, bryd y daw
(1, 1) 5 Mewn taranau, mellt, neu law?
(Yr ail Ddewines) Pan o'r hwrli-bwrli'n rhydd,
 
(Y drydedd Ddewines) Cyn ymachlud haul y bydd.
(1, 1) 9 Ymha lannerch?
(Yr ail Ddewines) Ar y tyno.
 
(Y drydedd Ddewines) A Macbeth i gyfwrdd yno.
(1, 1) 12 Dyfod 'r wyf, y Goetgath lwyd!
(Yr ail Ddewines) Geilw'r Llyffant.
 
(Duncan) A gollodd ef; enillodd Macbeth hael.
(1, 3) 60 Pa le y buost ti, chwaer?
(Yr ail Ddewines) Yn lladd moch.
 
(Y drydedd Ddewines) A thithau, chwaer?
(1, 3) 63 Gwraig morwr oedd, a'i glin yn llawn o gnau,
(1, 3) 64 A chnôi, a chnôi, gofynnais "Dyro beth;"
(1, 3) 65 "Dos ymaith, wrach!" medd hithau 'r faeden lwth.
(1, 3) 66 I Aleppo'r aeth ei gŵr, yn feistr ar y Teigr:
(1, 3) 67 Ond yno hwyliaf gyda hoel,
(1, 3) 68 Ac yno, fel llygoden foel,
(1, 3) 69 Mi wnaf, mi wnaf, ac mi wnaf.
(Yr ail Ddewines) Codaf iti chwa.
 
(Yr ail Ddewines) Codaf iti chwa.
(1, 3) 71 'Rwyt yn dda.
(Y drydedd Ddewines) A minnau un.
 
(Y drydedd Ddewines) A minnau un.
(1, 3) 73 Gennyf fi mae'r llall fy hun,
(1, 3) 74 Chwythant ar y pyrth i gyd,
(1, 3) 75 Gwyddant bob rhyw barth o'r byd
(1, 3) 76 Ar y cwmpas sydd.
(1, 3) 77 Crined fydd â'r gweiryn rhos,
(1, 3) 78 Ni ddaw cysgu ddydd na nos
(1, 3) 79 Ar ei amrant i roi saib;
(1, 3) 80 Dyn a roir fydd dan ei raib
(1, 3) 81 Blin wythnosau, naw waith naw,
(1, 3) 82 Nychu bydd yn brudd mewn braw;
(1, 3) 83 Er nad aiff ei long i lawr,
(1, 3) 84 Hyrddir gan y dymestl fawr,
(1, 3) 85 Gwelwch beth sy gennyf fi.
(Yr ail Ddewines) Dangos, dangos di.
 
(Yr ail Ddewines) Dangos, dangos di.
(1, 3) 87 Bawd y gŵr y boddwyd ef
(1, 3) 88 Wrth ddychwelyd tua thref.
(Y drydedd Ddewines) Tabwrdd, tabwrdd draw!
 
(Banquo) O gellwch chwi chwilio hadau amser, a dywedyd pa ronyn a dyf a pha'r un na thyf, lleferwch wrthyf finnau, nad wyf yn deisyf nac yn ofni na'ch cariad na'ch cas.
(1, 3) 115 Henffych!
(Yr ail Ddewines) Henffych!
 
(Y drydedd Ddewines) Henffych!
(1, 3) 118 Llai na Macbeth, a mwy.
(Yr ail Ddewines) Nid hapused, eto llawer hapusach.
 
(Y drydedd Ddewines) Di a genhedli frenhinoedd, er na bych frenin dy hun; felly henffych, Macbeth a Banquo.
(1, 3) 121 Banquo a Macbeth, henffych.